Cofnodion drafft cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ac Undeb PCS a gynhaliwyd yn Nhŷ Hywel ddydd Mercher 11 Tachwedd 2015.

Yn bresennol: Julie Morgan AC (Cadeirydd); Bethan Jenkins AC; John Griffiths AC; Helen West, Swyddfa Julie Morgan AC; Ioan Bellin, Swyddfa Simon Thomas AC; Darren Williams (PCS).

 

1. Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch debyd uniongyrchol a phryderon am y Bil Undebau Llafur

Rhoddodd PCS y wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion parhaus yr undeb i ymateb i'r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi cael gwared ar y system o ddidynnu cyfraniadau ('check-off') ar gyfer gwneud taliadau aelodaeth yn uniongyrchol o gyflogau. Mae mwyafrif helaeth y rhai yr effeithir arnynt hyd yn hyn wedi cytuno i dalu drwy ddebyd uniongyrchol yn lle defnyddio'r system 'check-off'. Er hynny, mae'r undeb wedi colli miloedd o aelodau yn ystod y broses hon. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi dweud nad ydynt yn bwriadu cael gwared ar y system 'check-off', ond mae cwestiwn ynghylch a fyddant yn gallu cynnal y safbwynt hwn os bydd y Bil Undebau Llafur, sy'n ymestyn yr ymosodiad ar y system 'check-off' i'r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, yn dod yn gyfraith. Croesawodd y PCS y datganiad gan Brif Weinidog Cymru na ddylai'r Bil fod yn gymwys yng Nghymru, yn ogystal â'r bleidlais lethol a gafwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthwynebu'r Bil. Mae'r undeb hefyd yn pryderu am ddarpariaethau eraill y Bil, a fyddai'n gosod cyfyngiadau sylweddol pellach ar yr hawl i streicio ac ar allu undebau i gynnal ymgyrchoedd gwleidyddol, ac a fyddai'n gosod baich gweinyddol ac ariannol sylweddol arnynt.

Gwnaeth aelodau'r Grŵp sylwadau ar y cyhoeddiad gan awdurdodau lleol yr Alban na fyddent yn glynu wrth ddarpariaethau'r Bil i roi terfyn ar y system 'check-off'. Trafododd y Grŵp i ba raddau y gallai'r dull hwn gael ei hyrwyddo yng Nghymru.

 

Cam i’w gymryd: Y Grŵp i: (1) ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i weld a fyddai'n bosibl iddi hyrwyddo a chydlynu gwrthwynebiad/diffyg cydweithredu mewn perthynas â'r Bil ymhlith awdurdodau lleol Cymru; (2) ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru a/neu Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn gofyn pa safbwynt y bydd yn cael ei fabwysiadu ar y system 'check-off' o ran aelodau undebau llafur yn Llywodraeth Cymru ac yn y cyrff a noddir gan y Llywodraeth.

 

2. Y wybodaeth ddiweddaraf am yr anghydfod ynghylch cyflogau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Dywedodd PCS bod trafodaethau (a gynhelir drwy ACAS) rhwng PCS ac Amgueddfa Cymru/ National Museum Wales i geisio datrys yr anghydfod ynghylch premiymau cyflog wedi'u trefnu ar gyfer dydd Iau 12 Tachwedd a dydd Gwener 13 Tachwedd. I ddechrau, gwrthododd rheolwyr ystyried cynnal cyfarfodydd pellach. Fodd bynnag, mae'r gweithredu diwydiannol a welwyd dros yr haf, ynghyd â'r lobïo a wnaed gan Aelodau'r Cynulliad a'r cyfarfod a gynhaliwyd gyda Gweinidog yr economi wedi peri iddynt ailfeddwl y penderfyniad hwnnw. Roedd PCS wedi cyflwyno dau opsiwn amgen i'r cyflogwr. Roedd o'r farn y gallai'r opsiynau hyn ddarparu'r lefel angenrheidiol o arbedion tra'n diogelu safonau byw y staff cyswllt cyntaf hynny y byddai cynigion y rheolwyr yn effeithio arnynt. Diolchodd PCS aelodau'r Grŵp am eu cefnogaeth, gan gynnwys yn y rali a gynhaliwyd yn y Senedd ar 20 Hydref.

Camau i’w cymryd: Y PCS i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Grŵp am unrhyw gynnydd a wneir yn ystod y trafodaethau.

 

3. Cyllid a Thollau EM - bygythiad y bydd rhagor o swyddfeydd yn cau yng Nghymru

Rhybuddiodd PCS y Grŵp bod Cyllid a Thollau EM yn bwriadu gwneud cyhoeddiadau cydamserol i staff ym mhob un o'i swyddfeydd ar y diwrnod canlynol, sef dydd Iau 12 Tachwedd, am y cynlluniau i ganoli gwaith y sefydliad mewn nifer llai o ganolfannau rhanbarthol mawr, a bod disgwyl y bydd y cam hwn, yng Nghymru, yn arwain at golli swyddfeydd y sefydliad y tu allan i Gaerdydd, gyda'r swyddfeydd yn Abertawe, Wrecsam a Phorthmadog yn cau. 

Gyda'i gilydd, mae'r swyddfeydd sydd o dan fygythiad yn cyflogi mwy na 600 o weithwyr. Er y deellid bod Cyllid a Thollau EM yn mynd i gyhoeddi cynnydd net yn nifer staff y sefydliad ledled Cymru, mae'r disgwyliad y bydd yr holl swyddi hyn yn cael eu lleoli yng Nghaerdydd yn newyddion drwg i economïau lleol a chymunedau eraill yng Nghymru. Yn y ddeng mlynedd diwethaf, mae presenoldeb Cyllid a Thollau EM yng Nghymru wedi crebachu'n raddol o tua ugain o leoliadau ledled y wlad. Y cam mwyaf diweddar oedd y penderfyniad i gau swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Bae Colwyn, Merthyr Tudful a Doc Penfro. Bydd y PCS yn ymgyrchu yn erbyn unrhyw gamau i gau rhagor o swyddfeydd.

Mynegodd aelodau'r Grŵp bryder am y cyhoeddiad disgwyliedig, a gofynnodd yr aelodau hefyd am ddyfodol y gwasanaeth Cymraeg. Lleolir y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd ym Mhorthmadog, ond mae'n debygol bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu o Gaerdydd yn y dyfodol.

Cam i’w gymryd: Y PCS i ymgysylltu ymhellach gyda'r Grŵp ynghylch y cyhoeddiadau hyn a chynlluniau manwl yr undeb o ran ei ymateb.

 

4. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (yr ONS) - y posibilrwydd o drosglwyddo swyddi o Gasnewydd i Lundain

 

Mynegodd PCS bryderon ei aelodau yn yr ONS yng Nghasnewydd ynghylch canlyniadau posibl yr adolygiad a gynhaliwyd gan Syr Charlie Bean, cyn ddirprwy lywodraethwr Banc Lloegr, i ddarpariaeth data economaidd yn y DU. Dywedodd Syr Charlie ei bod yn debygol bod symud yr ONS o Lundain i Gasnewydd yn 2007 wedi cyfrannu at y ffaith fod y sefydliad wedi "tanberfformio" yn y blynyddoedd diwethaf. Ni awgrymodd bod symud yr ONS yn ôl i Lundain yn opsiwn hyfyw. Serch hynny, roedd yr undeb o'r farn ei bod yn werth chweil cyflwyno sylwadau ynghylch manteision lleoliad presennol y sefydliad.

 

Camau i’w cymryd: Y Grŵp i ysgrifennu at Syr Charlie yn nodi manteision symud yr ONS i Gasnewydd, a photensial y sefydliad i ddatblygu fel canolfan ragoriaeth ystadegau yn ei leoliad presennol.

 

5. Materion Llywodraeth Cymru

Rhoddodd PCS wybod i'r Grŵp am ddau fater a godwyd gan ei aelodau yn Llywodraeth Cymru:

·         Gweithleoedd: Er gwaethaf y sicrwydd a roddwyd dro ar ôl tro gan uwch reolwyr y byddai ystyriaeth yn cael ei roi i leoli swyddogaethau mewn safleoedd y tu hwnt i dde-ddwyrain Cymru, nid yw'r dyheadau hyn wedi dwyn ffrwyth. Mae'n well gan yr adrannau/isadrannau sy'n noddi'r swyddogaethau newydd hyn eu cadw yn agos at y gweithleoedd presennol yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Trefforest a Bedwas. Gofynnodd PCS i aelodau'r Grŵp roi pwysau ar y Bwrdd Rheoli i roi ystyriaeth wirioneddol i drosglwyddo gwaith i swyddfeydd sy'n cael eu tanddefnyddio yn Aberystwyth, Cyffordd Llandudno ac Abertawe, a hynny er mwyn creu budd i economïau canolbarth, gogledd a/neu dde-orllewin Cymru.

·         Cynrychiolwyr yr undebau llafur ar y bwrdd rheoli: Roedd Ochr yr Undebau Llafur, Llywodraeth Cymru, wedi gofyn am 'statws sylwedydd ymgysylltiol' mewn cyfarfodydd misol y Bwrdd Rheoli, gan nodi'r ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth sy'n cael ei leisio'n aml gan Carwyn Jones, Edwina Hart ac eraill. Mae'r undebau'n teimlo y byddai'r cyfle i gael cipolwg cynnar ar gynigion rheolwyr a rhoi sylwadau arnynt yn gyfle i'w gwneud yn fwy cadarn ac yn fodd o osgoi llawer o broblemau posibl. Gwrthododd y rheolwyr y cais hwn, gan gynnig cyfle i gynrychiolwyr fod yn bresennol mewn dau gyfarfod y flwyddyn a fyddai'n canolbwyntio'n llwyr ar faterion staffio, yn ogystal â sedd â hawliau pleidleisio llawn ar 'is-bwyllgor' ffurfiol, sef y Pwyllgor Gweithrediadau. Nid oedd yr undebau'n teimlo y byddai'r cynigion hyn yn ddigonol, ac y byddent yn croesawu cefnogaeth gan Aelodau'r Cynulliad.

Camau i’w cymryd: Y Grŵp i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru a/neu'r Ysgrifennydd Parhaol yn cefnogi safbwynt PCS ar y materion hyn.

 

5. Unrhyw Fater Arall

Dywedodd PCS fod yr anghydfod yn y DVLA ynghylch weithio ar ddydd Sadwrn, a gafodd ei drafod yn y cyfarfod blaenorol, wedi'i ddatrys erbyn hyn.